Ffin

Hilma Ll. Edwards

 

Gam wrth gam mae’r Arctig gwyn yn llithro

  yn llathraidd i’r dibyn

ei farw ym mhob diferyn

a’r llif yn cymylu’r llun.

 

Eiddilwch y clawdd olaf yn y gaer

  ar y gorwel eithaf,

ar eu hynt, pelydrau’r haf

a gywain ffrwythau’r gaeaf.

 

Eirth blin hyd y ffin yn ffoi

o’u hirlwm gwag o forloi,

a’u cnul am esgyrn i’w cnoi

 

ar haenen o rew tenau, yna ffrae

  am gig ffres yn cynnau,

a phrin y daw i’w ffroenau

awr â’i sawr yn agosáu.

 

A saif y brenhinoedd syn heno’n daer

  ar diroedd y dibyn,

i wylio’u teyrnas laswyn

yn meinhau’n y mannau hyn.

 

Yno, ymysg y tonnau y mae’r iâ

  mor wan â chanhwyllau,

haenen o afrlladennau

yn y gwyll drwy’r llanw’n gwau.

 

Ei foroedd o ddiferion yn darnio

  cadernid brodorion

ddeil eu tir drwy ddilyw ton,

arwriaeth y gororion.

 

Un iasol o ynysig ydyw’r braw

  ar dir brau yr Arctig;

crafanc tranc a ddwyn i’w trig

aflwydd hen gylch dieflig.

 

Aros dan leuad arian ei golau

  ac wylo galargan,

herio maent drwy’r oriau mân

dic toc y cloc yn clecian ...

 

 

Troi Tir

Sioned Haf

 

Dynodaf ddydd i arddio.

Dydd i rwygo gwreiddiau sy’n gwlwm tynn dan bridd clau.

Cwlwm o wreiddiau hen denantiaid.

 

Ni - y dyfodiaid newydd, mynnwn siapio’r ardd, ei haredig.

Y weledigaeth?

Trefnu, aildrefnu. Dechrau o’r newydd.

 

Rhwygwn yr iorwg sy’n bleth dros furiau’r ardd,

Fel rhwygo brethyn o ysgwydd – yn diarddel etifedd gwyrdd, 

Datguddiwn yn ei le, bridd noeth. 

 

Trwy droi cnawd y noethni newydd hwn, 

Daw bywyd tanddaearol i’r arwyneb i wingo. 

Mwydod, nadroedd miltroed, chwilod,

Yn gwingo ymysg y clai a’r gwreiddiau.  

Y tenantiaid cyson - a’u byd wyneb i waered.

 

Teimlaf euogrwydd yn araf gloddio

Wrth i’m rhaw dorri tir a byd y creaduriaid cudd. 

Erydaf gynefin mewn eiliad, a chwalu sicrwydd cartref,

Yn sicr taw'r ad-drefnu sydd gywir, 

A gwell fydd y system newydd. 

 

Plyciaf y gwythiennau - y gwreiddiau, 

A gyda’r rhaca, rwy’n cribo’r pridd, ei dwtio a’i fwytho. 

Taclusrwydd cyn bo’r haul yn suddo.

 

***

 

Trannoeth edrychaf dros fy nhiriogaeth dwt,

Yn gorff taclus, di-wraidd -  yn llonydd. 

Ac wrth oruchwylio’r byd cywrain hwn, 

Gwelaf gyrff mwydod a chwilod yn gelain, 

Yn sych fel gwreiddiau ar groen pridd,

Dan ddifaterwch gwres y bore. 

Bu’r dydd o arddio’n drech arnynt.

 

Oedfa fer sydd i bob garddwr. 

Ac i bob cynefin hefyd.

 

 

Dwyn ana’l 

Martin Huws

 

Dewch draw a mwynhewch,

medd y daflen sy’n melynu,  

y golygfeydd sy’n dwyn ana’l.  

 

Hesb oedd yr awel yn Sbaen  

pan drodd coed yn goelcerth, 

pan ledodd fflamau ger Salamanca 

am fod y gwynt wedi ei ollwng o’i dennyn. 

 

Trodd gwenau llawen lluniau Polaroid 

yn llwch. 

Doedd dim pwynt hala carden.

 

Dewch draw a mwynhewch,  

medd y daflen fregus rhwng bysedd, 

brofiad bythgofiadwy.

 

Yn Phnom Penh

cododd ton ei phen yn anghenfil.

Diwreiddiwyd gwareiddiad,

tynnwyd coed cadarn

gerfydd eu gwar

a’u taflu’n dusw o flodau 

ar ben toeon.

 

Dwy droedfedd arall 

a bydden ni dros y dibyn.  

Doedd dim pwynt hala carden.

 

Dewch a mwynhewch, 

medd y daflen anodd ei darllen 

yn hanner gwyll prynhawn sy’n llusgo, yn llesgáu, 

olygfa sy’n wledd i lygad.

 

Y campau d?r ym Mae Atacames

yw’r môr yn erydu’r arfordir, 

damaid wrth damaid,  

yn gwledda heb gael ei wala,  

ei wanc am draflyncu’r tywod, 

y graig yn groen ac asgwrn 

a’r hanner cylch euraidd yn llinyn truenus

mor denau â rhaff grogi.

 

Y ni yw’r teithwyr talog 

heb gydnabod ein bod yn darnio cyfanfyd, 

y pererinion pur o galon a gollodd gyfeiriad. 

 

Fe chwalon ni’r ffordd i’r Ddinas Sanctaidd. 

 

Last Updated (Thursday, 05 July 2012 08:31)